Yr Atebion i Lwybr Lluniau Aberaeron

Cliciwch yma

Prosiect a enillodd wobr genedlaethol

Sefydlwyd Cymdeithas Aberaeron i barhau gwaith prosiect treftadaeth cymunedol Daucanmlwyddiant 2007 Aberaeron. Ariannwyd prosiect y Daucanmlwyddiant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Cynhwysai Lwybr Tref Aberaeron a phlaciau; gweithdai medrau traddodiadol; prosiectau ysgolion; prosiect hanes llafar; Arddangosfa Aberaeron 2007 ac arddangosfa o gwiltio a gwaith nodwydd gwragedd a merched Aberaeron.

Enwebwyd prosiect treftadaeth Daucanmlwyddiant Aberaeron yn enillydd dros Gymru gyfan yn nosbarth grwpiau Gwobrau Cymuned a Threftadaeth Nationwide 2008.

Amcanion Cymdeithas Aberaeron

Mae Cymdeithas Aberaeron yn gweithio ar draws yr holl sectorau a'r grwpiau i hybu adeiladu galluoedd drwy hyrwyddo cymryd rhan, mynediad i ddatblygu medrau a chyfleoedd i weithio gydag unigolion a grwpiau eraill.

Sicrhaodd y Gymdeithas gynnal Arddangosfa Aberaeron bob blwyddyn wedyn fel y gallai llawer mwy o bobl fwynhau treftadaeth a hanes cyfareddol Aberaeron.

Mae'r Gymdeithas yn ceisio:

  • Denu aelodaeth ragweithiol sydd drwy'r adeg yn tyfu, yn datblygu ac yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau
  • Annog trigolion ac ymwelwyr i Aberaeron a'r ardal o amgylch i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau
  • Dod yn ganolbwynt i weithgareddau'r gymuned yn Aberaeron, gan weithio mewn partneriaeth gyda chyrff a chymdeithasau eraill
  • Gweithio tuag at sefydlu man parhaol i Arddangosfa Aberaeron a gwëithgareddau cymunedol megis digwyddiadau treftadaeth, hanes, addysg a chymdeithasol
  • Cael enw da am ddenu arian at brosiectau a chynnal gweithgareddau a digwyddiadau graenus wedi'u trefnu'n dda

Rhedir y Gymdeithas yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr ac mae'n dibynnu ar incwm o daliadau aelodaeth, rhoddion a chodi arian i dalu am ei gweithgareddau.

Rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau i aelodau

Mae rhaglen y Gymdeithas yn cynnwys:

  • sgyrsiau o ddiddordeb lleol
  • ymweliadau a gwibdeithiau
  • digwyddiadau cymdeithasol
  • arddangosfeydd am hanes a threftadaeth Aberaeron
  • gweithgareddau cymunedol sy'n canolbwyntio ar dreftadaeth, hanes, pensaernïaeth, yr amgylchedd a materion eraill

Ymunwch â Chymdeithas Aberaeron

Gwahoddwn chwi i ymuno â Chymdeithas Aberaeron – ymaelodwch yn awr. Drwy ymuno â'r Gymdeithas byddwch yn cyfrannu at fywyd a dyfodol eich cymuned ac yn talu llai neu'n cael mynediad am ddim i ddigwyddiadau'r Gymdeithas.

Croeso i bawb - i gymryd rhan, i wirfoddoli, neu'n syml i fwynhau ein rhaglen o ddigwyddiadau.

Taliadau aelodaeth blynyddol

  • £10 aelodaeth unigol
  • £15 aelodaeth deuluol
  • £25 aelodaeth gorfforaethol
  • Mae aelodaeth iau dan 18 am ddim
  • Ffurflen Aelodaeth

Manylion cysylltu

Mae Cymdeithas Aberaeron yn gwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy warant (rhif cofrestredig 7641820) ac yn elusen gofrestredig (1145491). Cyfeiriad cofrestredig y cwmni yw 6 Clos Pengarreg, Aberaeron, SA46 0DX. Rhif ffôn 01545 571559. Staff prosiect cyfredol y Gymdeithas, Hanes, Treftadaeth a Chymuned, yw:

Mae Cymdeithas Aberaeron yn aelod cyswllt o Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru