| 12g. | Adeiladu Castell Cadwgan, castell o bridd a choed ar yr arfordir. |
| 15g. | Crybwyllir Aberaeron mewn cywydd gan Lewis Glyn Cothi. |
| 1565 | Crybwyllir Aberaeron mewn arolwg o’r arfordir. |
| 1693 | Cofnod cyntaf yng nghofnodion y Cwrt-Lît at Faenor Llyswen (y nesaf yn 1774). |
| 1748 | Nid yw siart yr arfordir gan Lewis Morris yn dangos Aberaeron. |
| 1757 | Adeiladwyd Aberaeron Uchaf (Dolau Aeron) gan Lewis Gwynne. Caewyd tua 1815, ailadeiladwyd 1852. |
| 1769 | Cyfeiriad cynharaf gan ymwelwr at dafarn yn Aberaeron. |
| 1770 | Ffurfiwyd y Cwmni Tyrpeg. Mae’n debygol fod tollborth wedi’i godi yn fuan wedyn. |
| 1774 | Cofnodion y Cwrt-Lît (cyngor Maenor Llyswen) yn gyflawn tan y 19 ganrif hwyr. |
| 1783 | Adeiladwyd y bont uchaf 15 llath o’r hen bont. |
| 1785 | Ffurfiwyd y Gymdeithas er Lles Aberaeron. |
| 1801 | Siart yr arfordir gan William Morris yn dangos Aberaeron. |
| 1807 | Deddf Seneddol yn caniatáu i’r Parchg. Alban Thomas Jones Gwynne wella’r harbwr. |
| 1807 | Adeiladwyd Gwesty’r Harbourmaster. |
| 1809 | Cwblhau’r pir cyntaf. |
| 1811 | Cwblhau’r ail bir. |
| 1811 | Adeiladwyd cilgant o bedwar ty (Rhes Mynachdy – Bedlam Barracks) i’r gogledd o geg yr harbwr. |
| 1813 | Storm yn difrodi’r pirau newydd. |
| 1813 | Adeiladwyd y Bont Isaf newydd (ailadeiladwyd 1881-2). |
| c. 1815 | Adeiladwyd Gwesty’r Plu gan William Lewes o Lanaeron. |
| c. 1815 | Adeiladwyd Ty Pengarreg gan John Atwood, mab yng nghyfraith y Parchg. A T J Gwynne ( yn gynharach os adeiladwyd cyn y ffordd). |
| 1818 | Adeiladwyd Ysgol Glan y Môr ar y lan i’r gogledd o geg yr harbwr. |
| 1819 | Bu farw’r Parchg. Alban Thomas Jones Gwynne. |
| 1830 | Etifeddodd y Cyrnol A T J Gwynne yr ystad pan fu farw ei fam |
| c. 1830 | Sefydlwyd Swyddfa Bost yn y dref. |
| 1833 | Adeiladwyd Tabernacl (Methodistiaid Calfinaidd) (helaethwyd 1869). |
| 1833 | Adeiladwyd Capel Peniel (Annibynwyr) (ailadeiladwyd 1857, 1897). |
| 1835 | Adeiladwyd Capel y Drindod; pensaer Edward Haycock (ailadeiladwyd 1872). |
| 1839 | Adeiladwyd y Wyrcws. |
| 1840au | Estynnwyd y pier gogleddol i’r gogledd. |
| 1844 | Neuadd y Dref (ynadon), adeiladwyd y farchnad a’r carchar. |
| 1845 | Arolwg a map y Degwm. |
| 1848 | Sefydlwyd yr Ysgol Genedlaethol. |
| 1861 | Bu farw’r Cyrnol Alban Thomas Jones Gwynne. |
| 1863 | Ffurfiwyd Cwmni Mordwyo Ager Aberayron (yn bodoli tan 1876). |
| 1864 | Adeiladwyd Capel Salem (Methodistiaid Wesleaidd) (Eglwys Gatholig 1997). |
| 1866 | Pasio deddf yn caniatáu goleuo Aberaeron â nwy. |
| 1872 | Adeiladwyd yr Ysgol Brydeinig (y tu ôl i Portland Place). |
| 1872 | Agorwyd yr Ysgol Genedlaethol (Cyfrinfa’r Seiri Rhyddion). |
| 1872 | Darganfuwyd Ffynnon Chalybeate. |
| 1872 | Ailadeiladwyd Eglwyd y Drindod Sanctaidd (ailadeiladwyd y gangell 1897). |
| 1877 | Ffurfiwyd Cwmni Paced Longau Aberaeron (bu mewn bodolaeth tan tua 1918). |
| 1878 | Adeiladwyd Capel Siloam (Bedyddwyr) (Warws Carpedi) |
| 1881 | Difrodwyd y Bont Isaf mewn llif a’i hailadeilu. |
| 1881 | Rheilffordd grog yn croesi’r harbwr. Caewyd tua 1931; codwyd un newydd yn 1988, caewyd erbyn 1990. |
| 1882 | Ffurfiwyd y Clwb Tennis. |
| 1884 | Adeiladwyd y llong olaf, y Cadwgan, yn yr harbwr. |
| 1888 | Aberaeron yn dod yn brif dref y sir |
| 1892 | 20 Medi. Ffurfio Dosbarth Drefol a Dosbarth Wledig Aberaeron |
| 1898 | Agorwyd Ysgol y Sir. |
| 1909 | Gwaith yn dechrau ar y rheilffordd newydd i Aberaeron, agorwyd yn 1911. |
| 1911 | Adeiladwyd y Bont Uchaf newydd i roi mynediad i’r orsaf newydd. |
| 1925 | Adeiladwyd y Neuadd Goffa. |
| 1951 | Caewyd y rheilffordd ar gyfer teithwyr |
| 1965 | Gadawodd y trên nwyddau olaf Aberaeron |
| 2007 | Daucanmlwyddiant Deddf Harbwr Abeaeron |