SYLWCH: Mae’r fersiwn hon o’r wefan wedi darfod. Gellir cyrraedd y fersiwn newydd drwy glicio ar y ddolen ganlynol https://www.cymdeithasaberaeronsociety.org/

Elusen dreftadaeth gymunedol yw Cymdeithas Aberaeron a sefydlwyd yn sgil prosiect treftadaeth dathliadau Daucanmlwyddiant Aberaeron a enillodd wobr genedlaethol. Rydym yn gweithio i ddathlu, dehongli a chyflwyno hanes a threftadaeth forwrol, bensaernïol a chymdeithasol Aberaeron a’r cyffiniau..

Beth rydym yn ei wneud?

Rydym yn trefnu rhaglen amrywiol o weithgareddau, gan gynnwys cyfres o sgyrsiau, digwyddiadau cymdeithasol, tripiau, ac Arddangosfa Aberaeron. Rydym wedi casglu dros 4,000 o ffotograffau, ac mae gennym gyfoeth o ddeunydd ysgrifenedig a llyfrgell gynyddol o adnoddau digidol a rhai ar y we, sy’n cyflwyno bywyd Aberaeron ddoe a heddiw mewn sain a llun.

 Ein Nod Yw…

  • Cynnwys y gymuned gyfan
  • Annog pobl i wirfoddoli, i ddysgu sgiliau newydd ac i gymryd rhan
  • Gweithio gyda sefydliadau eraill
  • Dod o hyd i gartref parhaol ar gyfer ein casgliadau treftadaeth