12g. Adeiladu Castell Cadwgan, castell o bridd a choed ar yr arfordir.
15g. Crybwyllir Aberaeron mewn cywydd gan Lewis Glyn Cothi.
1565 Crybwyllir Aberaeron mewn arolwg o’r arfordir.
1693 Cofnod cyntaf yng nghofnodion y Cwrt-Lît at Faenor Llyswen (y nesaf yn 1774).
1748 Nid yw siart yr arfordir gan Lewis Morris yn dangos Aberaeron.
1757 Adeiladwyd Aberaeron Uchaf (Dolau Aeron) gan Lewis Gwynne. Caewyd tua 1815, ailadeiladwyd 1852.
1769 Cyfeiriad cynharaf gan ymwelwr at dafarn yn Aberaeron.
1770 Ffurfiwyd y Cwmni Tyrpeg. Mae’n debygol fod tollborth wedi’i godi yn fuan wedyn.
1774 Cofnodion y Cwrt-Lît (cyngor Maenor Llyswen) yn gyflawn tan y 19 ganrif hwyr.
1783 Adeiladwyd y bont uchaf 15 llath o’r hen bont.
1785 Ffurfiwyd y Gymdeithas er Lles Aberaeron.
1801 Siart yr arfordir gan William Morris yn dangos Aberaeron.
1807 Deddf Seneddol yn caniatáu i’r Parchg. Alban Thomas Jones Gwynne wella’r harbwr.
1807 Adeiladwyd Gwesty’r Harbourmaster.
1809 Cwblhau’r pir cyntaf.
1811 Cwblhau’r ail bir.
1811 Adeiladwyd cilgant o bedwar ty (Rhes Mynachdy – Bedlam Barracks) i’r gogledd o geg yr harbwr.
1813 Storm yn difrodi’r pirau newydd.
1813 Adeiladwyd y Bont Isaf newydd (ailadeiladwyd 1881-2).
c. 1815 Adeiladwyd Gwesty’r Plu gan William Lewes o Lanaeron.
c. 1815 Adeiladwyd Ty Pengarreg gan John Atwood, mab yng nghyfraith y Parchg. A T J Gwynne ( yn gynharach os adeiladwyd cyn y ffordd).
1818 Adeiladwyd Ysgol Glan y Môr ar y lan i’r gogledd o geg yr harbwr.
1819 Bu farw’r Parchg. Alban Thomas Jones Gwynne.
1830 Etifeddodd y Cyrnol A T J Gwynne yr ystad pan fu farw ei fam
c. 1830 Sefydlwyd Swyddfa Bost yn y dref.
1833 Adeiladwyd Tabernacl (Methodistiaid Calfinaidd) (helaethwyd 1869).
1833 Adeiladwyd Capel Peniel (Annibynwyr) (ailadeiladwyd 1857, 1897).
1835 Adeiladwyd Capel y Drindod; pensaer Edward Haycock (ailadeiladwyd 1872).
1839 Adeiladwyd y Wyrcws.
1840au Estynnwyd y pier gogleddol i’r gogledd.
1844 Neuadd y Dref (ynadon), adeiladwyd y farchnad a’r carchar.
1845 Arolwg a map y Degwm.
1848 Sefydlwyd yr Ysgol Genedlaethol.
1861 Bu farw’r Cyrnol Alban Thomas Jones Gwynne.
1863 Ffurfiwyd Cwmni Mordwyo Ager Aberayron (yn bodoli tan 1876).
1864 Adeiladwyd Capel Salem (Methodistiaid Wesleaidd) (Eglwys Gatholig 1997).
1866 Pasio deddf yn caniatáu goleuo Aberaeron â nwy.
1872 Adeiladwyd yr Ysgol Brydeinig (y tu ôl i Portland Place).
1872 Agorwyd yr Ysgol Genedlaethol (Cyfrinfa’r Seiri Rhyddion).
1872 Darganfuwyd Ffynnon Chalybeate.
1872 Ailadeiladwyd Eglwyd y Drindod Sanctaidd (ailadeiladwyd y gangell 1897).
1877 Ffurfiwyd Cwmni Paced Longau Aberaeron (bu mewn bodolaeth tan tua 1918).
1878 Adeiladwyd Capel Siloam (Bedyddwyr) (Warws Carpedi)
1881 Difrodwyd y Bont Isaf mewn llif a’i hailadeilu.
1881 Rheilffordd grog yn croesi’r harbwr. Caewyd tua 1931; codwyd un newydd yn 1988, caewyd erbyn 1990.
1882 Ffurfiwyd y Clwb Tennis.
1884 Adeiladwyd y llong olaf, y Cadwgan, yn yr harbwr.
1888 Aberaeron yn dod yn brif dref y sir
1892 20 Medi. Ffurfio Dosbarth Drefol a Dosbarth Wledig Aberaeron
1898 Agorwyd Ysgol y Sir.
1909 Gwaith yn dechrau ar y rheilffordd newydd i Aberaeron, agorwyd yn 1911.
1911 Adeiladwyd y Bont Uchaf newydd i roi mynediad i’r orsaf newydd.
1925 Adeiladwyd y Neuadd Goffa.
1951 Caewyd y rheilffordd ar gyfer teithwyr
1965 Gadawodd y trên nwyddau olaf Aberaeron
2007 Daucanmlwyddiant Deddf Harbwr Abeaeron