Cael hwyl sylwi atebion i’n cwis – edrych ar y lluniau i ddod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau:

TRENAU

 

 

1. Pryd agorwyd y rheilffordd yn Aberaeron?

2. Ydych chi’n gallu gweld injan 7402? Beth rydych chi’n feddwl y mae’n ei wneud?

3. Mae rhywun yn cerdded ar hyd y cledrau yn ymyl injan 7492. Pam fydden ni ddim yn gwneud hynny heddiw?

Cliciwch yma i ddangos / guddio Ateb

TRAFNIDIAETH CEFFYL

 

 

 

4. Mae’r goets i Lanbedr PS yn orlawn! Faint o bobl fedrwch chi eu cyfrif?

5. Chwiliwch am lun o  goets AF223 a choets Aberystwyth – Aberaeron. Yn eich barn chi p’un yw’r hynaf? Rhowch resymau.

Cliciwch yma i ddangos / guddio Ateb

6. Edrychwch ar lun y fan barseli gyda’r basgedi ar y to. Pam rydych chi’n meddwl fod cadwyn gyda’r teithiwr wedi ei gosod yn ei wasgod?

Cliciwch yma i ddangos / guddio Ateb

7. Sawl un o’r cadwynau wasgod y gallwch eu gweld yn y llun?

Cliciwch yma i ddangos / guddio Ateb

BYSIAU

 

 

8. Pa gwmni oedd yn rhedeg y gwasanaeth bysiau rhwng Cei Newydd ac Aberaeron?

9. Tu allan i ba westy roedd y prif arhosfan bysiau yn 1907?

10. Beth yw rhif cofrestru’r bws mwyaf ‘newydd’?