Prysurdeb y iard oedd yn taro dyn gynta’ – loriau masnachwyr lleol yn cywain glo, blawd a nwyddau eraill o bob math i siopau, busnesau ac unigolion yn y dre.

Y lorïau rwy’n cofio orau yw rhai Josiah Jones, Glanmor Stores, a Dewi (Glo) Jones, Regent Street. Dewi oedd yn cludo y bagiau, llythyron a pharseli o Swyddfa’r Post i ddal y trên ddiwedd y pnawn.

Cofiaf Ivor Jenkins (minnau yn gwmni ac ychydig o help) yn mynd â bocsed o gimychiaid wedi eu pacio mewn blawd llif i’w danfon i Billingsgate ar y trên chwech. Bore wedyn byddent yn Llundain mewn pryd i ddal y farchnad. ‘Rown yn meddwl fod Ivor yn lwcus drosben i gael gadael yr ysgol yn bedair ar ddeg i fynd i bysgota gyda Mr Twm (Crescent) Morgan ar y ‘La Belle’. Yn ystod misoedd yr haf byddai ymwelwyr yn treulio’u gwyliau yn y ‘Camping Coach’.

Yn y iard tu ôl i’r Monachty roedd depo bysiau Crosville. (Rhai coch rwyf yn cofio gynta – a’r Western Welsh yn las.) O tu allan i’r hen Geltic a Manchester House y safai’r bysiau i fynd i Aberystwyth, Aberteifi a Llambed. Byddai’r Western Welsh yn rhedeg i’r Cei a Llandysul a Chaerfyrddin, a bysiau James bob dydd a.m. / p.m. i Rydaman trwy Lambed.

Yn 1946/47 byddai tua hanner dwsin o ni gryts Aberarth yn dal y bws 11 a.m. i Aberaeron. I mewn â ni at Enoc y barbwr i gael ein cneifio – byddem i gyd yn dal yr un bws yn troi ‘nôl am Aberystwyth. Ni fuodd barbwr cyflymach nag Enoc! Roedd ei weld yn eillio cwsmer yn brofiad brawychus – atsain o Sweeney Todd.

Dylid nodi y nifer sylweddol o ddynion lleol oedd yn cael eu cyflogi ar y bysiau ac yn y stesion. Gwyddai pawb yn y dre pwy oedd y ‘drivers’ a’r ‘conductors’ – gallwn enwi nifer ohonynt hyd heddi.

Dylid cofio bysiau bach Llyseinon yn eiddo Dafydd Evans a’i feibion. Roeddent yn rhedeg gwasanaethau gwledig, e.e. i Lambed ar ddiwrnod mart trwy Mydroilyn a Dihewyd.

Y bysiau hyn gariai tîm ffwtbol Aberaeron ar hyd a lled Sir Aberteifi. Nhw oedd yn ein cludo i Gaerdydd i weld Cymru’n chwarae; cafwyd nifer fawr o dripiau cofiadwy, a rhai fyddai’n well eu hanghofio efallai. Y trip mwyaf anturus oedd yr un i Lundain (1959) i chwarae tîm yn Chiswick – ond nid dyma’r lle i adrodd yr hanes hynny.

Os methai rywun i gael trên neu fws i rywle roedd tacsi Moc Jenkins ar gael, dim ond bod digon o amser gan y sawl oedd eisiau. Nid oedd Moc o’r un dras ag Enoc.

Mehefin, 2011Mehefin, 2011.

Comments are closed.