(yn seiliedig ar gyfweliad â Mair Rees, Castell y Geifr, Mehefin 2011)

Yn ystod y 1920au roedd fy nhad-cu a mam-gu, Jos a Lil Rees, yn ffermio yn y Rhondda. Ar ôl y dirwasgiad cawsant gyfle i rentu Fferm Castell y Geifr yn Llanarth ac yn 1927 dyma nhw’n deithio yno ar gefn motor-beic gyda ‘sidecar’ a dilynodd y dodrefn, yr ieir, y ci a fy hen dad-cu a mam-gu mewn lori a chanddi teiars rwber soled. Ar y pryd roedd fy nhad yn 17 mlwydd oed a theithiodd ef i Aberaeron ar y trên: Nid yn unig oedd rhaid iddo edrych ar ôl ei frodyr a chwiorydd iau ar hyd y daith ond ef hefyd oedd yn gyfrifol am gludo’r anifeiliaid, ceffylau, gwartheg a moch ar y daith a barodd 17 awr. Ar ôl cyrraedd Aberaeron rhoddodd y stesionfeistr gyfarwyddiadau i’r plant ac bu rhaid iddynt gerdded gyda’r anifeilaidd yr holl ffordd i Gastell y Geifr. Ar hyd y ffordd daeth pobl allan i’w cyfarch a’u croesawu i’r ardal. Roedd pawb i weld yn gwybod pwy oeddent a ble roddent yn mynd.

Yn rhyfedd, roedd Fferm Castell y Geifr yn wag ar gyfer fy nhad-cu a mam-gu am fod y tenantiaid blaenorol wedi symud i Aberaeron. Roedd Tom Lloyd Evans, y tenant blaenorol, yn ffermio moch ac yn allforio bacwn i Dde Cymru. Pan ddaeth y rheilffordd i Aberaeron, gwelodd Mr Evans ei gyfle a symudodd i Fferm Pengarreg a sefydlu busnes tebyg yno, gan ddefnyddio’r rheilffordd i gludo bacwn i drefi De Cymru.

Roedd gan fy nhad stori ddoniol am y rheilffordd yn y 1940au. Roedd fy nhad ar bwyllgor rheoli y Co-op ac un diwrnod roedd angen lifft ar Jack Jones, rheolwr y siop, i deithio i Aberaeron er mwyn dal y trên i fynd i gyfarfod pwysig. Yn anffodus roedd y trên wedi gadael pan gyraeddasant y Stesion a dyma’r Stesionfeistr heb oedi yn ffonio stesion Ciliau Aeron ac o fewn ychydig o funudau roedd y trên wedi dychwelyd i Aberaeron er mwyn codi Jack Jones.

Comments are closed.