Mae’r Gymdeithas yn falch o gyhoeddi bod y prosiect wedi cael ei ddyfarnu’n ail orau yn Ngwobrau Darganfod Treftadaeth AHI 2015, yn y categori Prosiectau Cymunedol, a noddwyd gan Ymddiriedolaeth y Camlesi a’r Afonydd. Cafodd y wobr ei chyflwyno gan Loyd Grossman CBE, Noddwr AHI (y Gymdeithas dros Ddehongli Treftadaeth) mewn seremoni a gynhaliwyd ar 21 Hydref yng Ngwesty’r Hilton, Newbury, Berkshire.

Gyda 49 o geisiadau rhwng pob categori, dywedodd Dr Bill Bevan, Is-gadeirydd AHI, “Mae’r broses o lunio rhestr fer wedi bod yn anodd. Mae ansawdd y prosiectau yn y gystadleuaeth yn arbennig o uchel ac yn adlewyrchu ansawdd y gwaith dehongli ar draws Prydain ac Iwerddon.” Roedd hyn yn gwneud y gydnabyddiaeth a gafodd ymdrechion Cymdeithas Aberaeron hyd yn oed yn fwy cyffrous.

Diolch yn fawr i holl Dîm y Prosiect, Rose Phillips a Virginia Lowe (y ddwy swyddog prosiect) a Sally Hesketh a Clare Thomas (cyd-reolwyr y prosiect) ac wrth gwrs i’r holl wirfoddolwyr. Heb eu cymorth hwy ni fyddai’r prosiect wedi ei gwblhau. I gael manylion am holl wobrau’r seremoni yn mynd i http://www.ahi.org.uk/www/news/view_detail/149/

Creodd disgyblion o Ysgol Gyfun Aberaeron furlun fel rhan o brosiect yr Adran Hanes ar y Rhyfel Byd Cyntaf gyda chymorth Sam Delph Janiurek, cyn-ddisgybl, sy’n astudio Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Newcastle.

IMG_9165IMG_9172IMG_9176

Mae Stori Aberaeron wedi dechrau’n dda – mae 40 – 50 o bobl ifainc o Ysgol Aberaeron, yr Uned Cyfeirio Disgyblion a’r Clwb Ieuenctid yn gwneud mosaig i’w roi ar loches glan yr afon. Mae’r Artist Cymunedol Pod Clare yn arwain y cynllun ac mae’n tyfu’n gyflym iawn!

Plan of harbour mosaic for riverside shelterOLYMPUS DIGITAL CAMERAOLYMPUS DIGITAL CAMERA Working on the riverside mosaic

Rydym wrth ein bodd bod cynifer yn mwynhau’r broses ac yn edrych ymlaen at wneud y mosaig cymunedol ar gyfer y Ganolfan Groeso.

Dewch i’r cyfarfod ar ddydd Mercher 26 Chwefror yn Neuadd y Lleng Brydeinig, Aberaeron rhwng 4 a 5.30pm i ddysgu rhagor, neu cysylltwch â Rose a Virginia, swyddogion y prosiect ar aberaeronstory@gmail.com